Sioe Nadolig i blant fydd hon fydd wedi ei sylfaenu ar daith arwrol y Cymry i Batagonia ar fwrdd llong-cario-te y Mimosa a'u hanesion geirwon yn cesio sefydlu'r Wladfa dan amgylchiadau mor arw ac mewn gwlad mor bell. Yn 2015 byddwn yn dathlu 150 o flynyddoedd ers y fordaith chwedlonol honno i Borth Madryn yn Ne yr Ariannin.
Bydd y sioe hon yn gyfle gwych i addysgu plant ifanc Cymru am yr holl gefndir a'r digwyddiad.
Bydd enwogion o'r cyfnod yn gymeriadau amlwg yn y sioe ee Lewis Jones (y Lewis sydd yn Nhrelew). Y dywysoges hardd fydd ei ferch o sef Elen. Bydd y Sbaenwyr yn peri problemau gyda'i deddfau caethiwys (er nad yn hollol wir) a bydd y Cymry yn cael help, parch a chyfeillgarwch gan yr Indiaid brodorol y Tehuelches (gwir).
Cawn hefyd flas ar y traddodiadau a'r diwylliant, tirwedd yr Andes a'r anifeiliaid rhyfeddol - y Guanacos, yr Armadillos (sef y dulog fel y'i gelwir yno heddiw) a llew'r mynydd y Piwma. Bydd y sioe yn llawn lliw a dawns a chân, tensiwn a chyffro, drygioni a daioni a chariad yn ennill y dydd a theyrnasu yn y diwedd. Pwrpas y sioe fydd rhoi adloniant a gwefr i'r plant ond trwy wneud hynny eu haddysgu am hanes sefydlu Y Wladfa yn 1865.
Sioe Nadolig yw hon wedi ei sylfaenu ar chwedl sy'n hannu o ardal Cwm Rhymni yng Ngwent sef Cawr Gilfach Fargoed. Hanes llwyth hyfryd ydyw o Dylwyth Teg sy'n byw yn ddedwydd braf yng Nghwm Rhymni. Maent wrth eu bodd yn canu a dawnsio ac mae sain eu telynnau a'u lleisiau mor swynol a hudolus...nes y daw cawr Gilfach Fargoed fel taran i aflonyddu ar eu heddwch a distrywio'u bywydau.
Mae'r cawr yn elyn mawr i'r Tylwyth Teg, yn eu dal a'u bwyta a'u dychryn gyda'i neidr fawr wenwynig sydd wedi ei chordeddu ei hun o gwmpas ei fraich dde. Yn llawn tristwch mae Gwyn ap Nudd sef brenin y Tylwyth Teg yn gorchymyn i bawb ohonynt gilio oddi wrth y cawr ac mae'r holl ddawns a chân a fu unwaith yn peidio.
Y mae un o'r tylwyth teg sef Gwrhyr Iaith yr Adar yn penderfynu brwydro yn erbyn y cawr ac yn gofyn am help gan ei gyfaill Tylluan Pencoed Fawr. Maent ill dau yn cynllwynio ac yn y diwedd yn llwyddo i hudo Cawr y Gilfach i lecyn anghysbell mewn perllan afalau i weld ei gariad y Widdon wrach. Mae'r Dylluan yn llwyddo i saethu'r Cawr trwy'i galon â saeth. Ond hyd yn oed ar ôl ei ladd, mae corff y cawr y drewi cymaint dros y wlad nes troi stumog pawb ac mae'r Tylwyth Teg yn gwneud twll anferth yn y ddaear ac yn ei losgi. Ond mae'r ddaear ei hun yn mynd ar dân a dyna sut, yn ôl y chwedl, y darganfuwyd glo am y tro cyntaf yng Nghwm Rhymni.
Bydd cariad, dawns a chân yn dychwelyd i'r fro.
Pentref yng Ngwynedd, a foddwyd ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl oedd Capel Celyn. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd a 48 o drigolion.
Ar yr 20ed o Ragfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm Tryweryn i gyflenwi dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn yr 1880au yn nyffryn Efyrnwy. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, doedd dim un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.
Roedd y mesur yn caniatáu prynu'r tir yn orfodol a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth Henry Brooke, y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, Harold Wilson, Bessie Braddock a Barbara Castle. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd y Fonesig Megan Lloyd George, T. I. Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Gwynfor Evans a'r aelod seneddol lleol T. W. Jones. Mynegodd Plaid Cymru ei wrthwynebiad i'r cynllun, ond ni chafwyd unrhyw weithredu uniongyrchol gan yr aelodau. Oherwydd y diffyg asgwrn cefn, ymneilltuodd nifer o'r aelodau ifanc gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cafwyd tair ymgais i ddifrodi offer oedd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu'r argae ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd Emyr Llywelyn, John Albert Jones ac Owain Williams.
Roedd dechrau 1963 yn gyfnod o dywydd caled o eira a rhew gyda'r ffyrdd yn anodd iawn i'w tramwy. Roedd y gwaith o adeiladu'r argae yn ei anterth. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar y gwaith yn un uchelgeisiol iawn, ond fe newidiodd pethau pan ymunodd Emyr Llywelyn â'r cynllun. Roedd e am i'r weithred fod yn un symbolaidd i'w gweld fel gweithred wlatgarol yn hytrach nag un derfysgol.
Canodd llawer o feirdd am foddi Cwm Tryweryn ac yn eu plith, Dafydd Iwan:
Mae argae ar draws Cwm Tryweryn
Yn gofgolofn i'n llyfdra ni;
Dyw'r werin ddim digon o ddynion, bois,
I fynnu ein rhyddid ni.
I lawer o Gymry gwladgarol daeth boddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn symbol o'r bygythiad i barhad yr iaith Gymraeg ei hun fel iaith gymunedol fyw, yn enwedig yn yr 1980au wrth i'r nifer o bentrefi Cymraeg eu hiaith fynd yn sylweddol lai. Roedd ymfudo gan Gymry ifainc er mwyn dod o hyd i waith a mewnfudo gan bobl o'r tu allan i Gymru, a’r rheini, gan amlaf, yn Saeson di-Gymraeg yn achosi colli Cymreictod. Mynegir hyn gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd adnabyddus Tryweryn, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cilmeri a cherddi eraill yn 1991 ond a gyfansoddwyd yn yr 1980au.
Ar ôl mordaith hir a dychrynllyd trwy storm enbyd mae'r tywysog Madog yn glanio ar draeth anghysbell. Fo ydi'r dyn gwyn cyntaf erioed i weld a dararganfod yr Amerig. Ond gwlad pwy ydi hi? Oes rhywun arall yn byw yn y tir?
Mae Madog yn cyfarfod llwyth caredig yr Indiaid Mandan sydd yn ei helpu a'i groesawu. Mae'n disgyn dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Mimihardda, merch y brenin Iawnchîff. Ond mae'r gelyn erchyll sef y doctor drwg PwFwdw'r Fall wedi dwyn y Penglog Hud gan lwyth y Mandaniaid ac wedi eu melltithio. Mae am ladd y brenin a throi'r bobl yn gaethweision ac yna creu ei lwyth ei hun. Bydd yn priodi'r dywysoges Mimihardda a gwneud iddi gael 52 o'i blant, un plentyn am bob wythnos o'r flwyddyn.
Be all Madog, ein harwr o Gymro ei wneud i achub y dydd? Hwyl a sbri a miri mawr. Cyffro, antur a gwrthdaro gwyllt. Sioe Nadolig newydd sbon yn llawn lliw a drama, dawns a chân, Madog a'r Amerig gan Dafydd Emyr a Gwyneth Glyn. Gwefr o fwynhad. Dewch yn llu!