Culhwch ac Olwen
Mae hanes "Y Twrch Trwyth" yn enwog trwy Gymru. Dyma’r Baedd mwyaf yn y byd, ddaeth i Gymru amser maith yn ôl a chreu anrhefn.
Ond yn ôl y chwedlau tywysog wedi ei rithio neu ei droi yn anifail oedd y Twrch Trwyth, felly peidwich a synnu os bydd twrch trwyth ein sioe ni yn llawn swyn a hud a lledrith!
Cewch glywed hanes Culhwch, heliwr gorau Cymru, ac Olwen, y ferch oedd mor hardd nes bod blodau’r dydd yn tyfu lle bynnag roedd hi’n cerdded.
Ond fel pob stori dda, mae yma gymeriadau i godi ofn arnoch – Ysbyddaden Bencawr, y cawr ffyrnig a Chas, y wrach ddrwg.
Tybed a fydd Culhwch yn llwyddo i ddal y Twrch Trwyth? Tybed a fydd Culhwch ac Olwen yn syrthio mewn cariad? /p>
Neu a fydd Cas yn llwyddo i ddifetha hwyl pawb? A beth am Ysbaddaden Bencawr? Efallai bod rhyw ffordd o’i drechu wedi’r cwbl!
Gan ddilyn traddodiad Cwmni Mega mae’r sioe yn defnyddio cerddoriaeth byw, dawnswyr proffesiynol a chriw o actorion eiddgar i ddiddanu’r gynulleidfa a chyflwyno talp o ddiwylliant Cymraeg yr un pryd!